Wednesday 24 September 2014

Nid yw'r achos erioed wedi ei wneud - mae hynny ar fin newid

Rali, Cymru'n Cefnogi IE, Caerdydd
ENGLISH

Yn ymateb i arolwg barn y BBC, dywedodd Branwen Alaw Evans ar ran ‘Cymru’n Cefnogi IE’, a drefnodd Rali lwyddiannus yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn cefnogi annibyniaeth i’r Alban::


"Mae cwestiynau amlwg yn codi am ba mor ddefnyddiol yw'r pôl yma, roedd pum opsiwn yn yr arolwg barn yn hytrach na dewis gliriach Ie neu Na. Mae polau eraill wedi adrodd bod cefnogaeth ar tua 15%, gydag arolwg barn diweddar ITV Wales a roddodd cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar 17%, neu 20% heb y rhai nad oedd am ateb.”

"Ar y llaw arall, mae polau a gomisiynwyd gan y BBC wedi dangos cefnogaeth lawer is, nid ydynt wedi defnyddio geiriad sy'n gyson â'r cwestiwn a ofynnwyd yn yr Alban. Yn wahanol i'r hyn ofynnwyd yn yr Alban, roedd elfen negyddol i gwestiwn y BBC, lle’r oedd yn gorffen gyda ‘independent from UK’ yn hytrach ‘an independent country’. “

”Wrth gwrs, nid yw cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru mor uchel ag y gallai hi fod, gan fod neb wedi gwneud yr achos hyd yma. Ond mae hynny ar fin newid."

Darllen mwy ar dailywales.net: The truth about BBC Wales’ daft ‘3%’ Welsh independence poll

No comments:

Post a Comment