Saturday 6 September 2014

Digwyddiad aml-bleidiol y tu fas i'r senedd yng Nghaerdydd i gefnogi annibyniaeth i'r Alban

Wythnos i heddiw, ychydig o ddyddiau cyn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, bydd pobl o ledled Cymru - ac o ystod o safbwyntiau gwleidyddol - yn dod at ei gilydd i Gaerdydd er mwyn danfon neges glir at y pleidleiswyr -: Ewch Amdani'r Alban! 

Trefnir y digwyddiad gan "Cymru'n cefnogi IE - Ewch Amdani Alban" , digwyddiad heb unrhyw gysylltiad á phlaid arbennig ac sydd wedi codi o awydd pobl i gefnogi dyhead pobl yr Alban i gael y grym i benderfynu eu dyfodol eu hunain drwy fod yn annibynnol o Lywodraeth Llundain. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru; Pippa Bartolotti, Arweinydd Plaid Werdd Cynmru; Y Cynghorydd Llafur Ray Davies o Gyngor Caerffili; ac Amy Kitcher, Cyn ymgeisydd Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Hefyd yn siarad bydd dau lais o'r Alban Jamie Wallace, Aelod o'r SNP, ac un o sylfaenwyr y 'National Collective', Andrew Redmond Barr; ynghyd a chynrychiolwyr cymunedol eraill o Gymru a negeseuon o gefnogaeth gan ymgyrchwyr ar lawr gwlad a phobl yn yr Alban. Bydd hefyd adloniant byw yn ystod y digwyddiad, gydag awyrgylch o ddathlu cadarnhaol.

Dros yr wythnosau diwethaf cafwyd cynydd mawr yn y gefnogaeth yn yr Alban i annibyniaeth. Mae pól diweddaraf YOuGov ar annibyniaeth i'r Alban yn dangos bod y mantais oedd gan y bleidlais "na" wedi'i chwalu i 6 phwynt yn unig, gyda'r bleidlais "ie" wedi codi i 47% ac yn brysur nesau at y bleidlais na sydd ar 53%.

Dywed Iestyn ap Rhobert o Cymru'n Cefnogi II : "Mae gan bobl yr Alban gyfle unwaith mewn oes ar y 18fed o Fedi. Gwyddom fod y rhan fwyaf o'r cyfryngau torfol a lleisiau eraill y sefydliad yn defnyddio tactegau dychryn i bwyso ar bobl i bleidleisio na. Dewch i ymuno gyda ni ddydd Sadwrn er mwyn danfon neges mwy cadarnhaol o Gymru: Ewch Amdani'r Alban!”

Mae gennym nifer o siaradwyr arbennig yn dod ddydd Sadwrn, o wahanol bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu rhai ymgyrchwyr o'r Alban i rannu eu profiadau sef Jamie Wallace, Aelod o'r SNP, ac un o sylfaenwyr y 'National Collective', Andrew Redmond Barr"


Dyfyniadau gan siaradwyr:

Dywedodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru: “Mae annibynniaeth yn gyflwr arferol i unrhyw genedl. Mae refferendwm yr Alban yn cynnig cyfle i adeiladu cymdeithas decach wedi ei seilio ar gydraddoldeb. Gall pleidlais IE ysbrydoli pobl yng Nghymru ac mewn mannau eraill o'r ynysoedd hyn i gyflawni mwy dros ein hunain ac i arddel dull wahanol o wleidydda. Dengys yr Alban i ni fod dewis amgen yn bodoli.”

Dywedodd Pippa Bartolotti, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru: "Daw pleidlais ie â'r broses o wneud penderfyniadau yn nes at bobl yr Alban - ac mae hyn yn wyrdd iawn!"

Dywedodd Ray Davies, Cynghorydd Llafur: “Bydd Alban annibynnol yn gam enfawr tuag at fyd ddi-niwcliar. Bydd buddugoliaeth Alban annibynnol yn ysbrydoliaeth i Gymru. ac i bawb sy'n sychedu am ryddid a'r hawl i reoli eu bywyd eu hunain."

Dywedodd Andrew Barr o'r National Collective : "Bydd y rali hon yn arddangosfa rymus i'r byd fod syniadau a dyheadau'r bobl, yn yr Alban a phob man arall yn yr ynysoedd hyn, ddim yn gallu cael eu diwallu mwyach gan y system yn San Steffan. Bydd, heb amheuaeth, yn arwydd hyfryd i'r Alban, ond gobeithiaf hefyd y bydd yn gychwyn ar fudiad mwy hyderus a mwy llafar yng Nghymru."

No comments:

Post a Comment